Our Quaker Way

Byw fel Crynwr/wraig: Cynghorion a holiadau ar gyfer Crynwyr ym Mhrydain.

Ysbrydolrwydd ac addoliad y Crynwyr

Mewn distawrwydd gyda’n gilydd, ceisiwn dawelu ein calonnau a’n meddyliau, yn barod i aros yn y Goleuni. Wrth gyfarfod i addoli, rydym yn agor ein hunain i ddirgelwch y tu hwnt i eiriau sy’n ein hysbrydoli i fyw bywydau mwy cariadus a ffyddlon.

Os gallwch, dewch i’r cyfarfod gyda’ch calon a’ch meddwl wedi paratoi. Os na, dewch beth bynnag. Waeth pa mor ofidus ydym, gall caredigrwydd hael yr Ysbryd ein cyrraedd. Os mai pan fyddwn yn teimlo’n barod yn unig y byddwn yn dod, rydym yn tanystyried nerth cariadus a thrawsnewidiol Duw.

Yn y cyfarfod addoli, gall meddyliau godi sy’n mynd â’n sylw. Os gallwn eu rhoi o’r neilltu, bydd hyn yn ein rhyddhau i ganolbwyntio ar aros disgwylgar. Gydag ymarfer, rydym yn dysgu gwrando am y Dwyfol sydd oddi mewn a’r tu hwnt i bob un ohonom.

Gellir cynnal cyfarfod addoli yn unrhyw le, yn unrhyw fan ac ar-lein. Sut ydym yn cynnal ein disgyblaeth gyffredin mewn gwahanol leoliadau? Nid yw distawrwydd yn nod ynddo’i hun, ond gall ein helpu i ymlonyddu. Bydd ein harfer o gydlonyddu yn ein dal yn y Goleuni.

Gall unrhyw un ohonom gael ein harwain i siarad yn ystod cyfarfod addoli. Daw’r weinidogaeth hon trwom ni, nid oddi wrthym ni. Hyd yn oed os yw’n teimlo’n frawychus a bod geiriau’n anodd eu canfod, bydd gweinidogaeth ffyddlon yn siarad â chalon rhywun arall sy’n bresennol. Gall agor y ffordd i weinidogaeth bellach. Mae gweinidogaeth pawb, boed trwy eiriau neu bresenoldeb distaw, yn cyfrannu at ddyfnder ein haddoliad.

Arhoswch yn amyneddgar cyn cynnig gweinidogaeth, a phrofwch yn ofalus yr alwad fewnol i siarad. A yw’r geiriau hyn yn deillio o brofiad o’r Ysbryd? A ydynt yn amserol, yn enwedig tuag at ddiwedd yr addoliad? Pan fyddwch yn gwybod bod yn rhaid i chi siarad, gallwch ymddiried y bydd y geiriau’n dod. Rydym oll yn helpu’r cyfarfod drwy siarad yn gryno, yn glir a heb fod yn rhy aml.

Mewn addoliad, efallai y gwelwn fod gweddi’n tarddu o le dwfn ynom. Gall gweddi ein helpu i ymlonyddu. O’u cynnig fel gweinidogaeth, gall ein gweddïau siarad yn bwerus â’r cyfarfod, gan ein gwneud yn ymwybodol o bresenoldeb Duw.

A ydym yn agored i weinidogaeth lafar pobl eraill? A allwn glywed yr hyn sydd y tu hwnt i’r geiriau, hyd yn oed y rhai sy’n ein cynhyrfu neu sy’n aflonyddu arnom, er mwyn gwerthfawrogi’r hyn sy’n cael ei gynnig i ni? A ydw i’n gwrando gyda meddwl agored a chalon hael?

Gall cyfarfod i addoli feithrin ein bywydau cyfan. Mae’r cyd-lonyddwch sydd wrth wraidd hynny ar gael i ni bob eiliad o’r dydd.

Mae ein ffordd fel Crynwyr wedi’i gwreiddio yn ffordd Iesu, ffordd cariad radical. Mae bod yn agored i’r cariad hwnnw’n mynd y tu hwnt i’n gwahaniaethau o ran cred. Sut mae Iesu yn siarad â ni heddiw? Beth sy’n fy ysbrydoli a’m cefnogi i fyw bywyd wedi’i arwain gan gariad?

Mae amheuaeth yn rhoi cyfle inni dyfu. Gall wynebu ein hamheuon a gofyn cwestiynau anodd i ni’n hunain ddyfnhau ein ffydd. Weithiau byddwn yn llesg ac yn brin o hyder. Beth sy’n ein helpu i gofio’r cryfder sydd ar gael i ni? Efallai na fyddwn bob amser yn ei deimlo, ond mae’r Goleuni bob amser yn bresennol i’n cynnal.

Mewn byd prysur, mae angen i bob un ohonom ddod o hyd i’n hamser ein hunain ar gyfer llonyddwch tawel i gysylltu â’r Dwyfol. Gallwn wrando yno am y sibrydion sy’n rhoi gwybod inni beth mae cariad yn ei ofyn gennym.

A ydym yn cydnabod pŵer a gwendid geiriau i rannu ein profiad mewnol â’n gilydd? A yw’r hyn a ddywedaf yn cael ei ddweud mewn cariad a chyda gofal? Pan fydd eraill yn siarad am eu profiad ysbrydol, a ydw i’n gwrando am yr hyn y mae’r geiriau hynny’n ei olygu iddyn nhw yn hytrach nag i mi fy hun?

Mae’r Ysbryd yr ydym yn agor ein calonnau a’n meddyliau iddo ar gael i eraill ym mhobman. Mae ysbrydoliaeth i’w chael yn yr ysgrythur, mewn eglwysi a chrefyddau eraill, ac yn y byd o’n cwmpas. A ydw i’n ystyried syniadau newydd yn ofalus? A ydw i’n agored i Oleuni newydd o ble bynnag y daw?

Cymuned y Crynwyr

Wrth i ni ddatblygu bywyd oddi mewn i gymuned addoli, rydym yn dysgu ymddiried y gallwn ni i gyd, ar wahân a chyda’n gilydd, gael ein harwain gan y Goleuni. Sut ydym yn meithrin llawenydd a bod yn agored ym mhresenoldeb ein gilydd fel ein bod yn dod i adnabod ein gilydd yn y pethau sy’n dragwyddol?

Sut gall pob un ohonom sicrhau bod pawb yn ein cyfarfod yn teimlo’n gartrefol ac yn ddiogel? A ydym yn effro i’r nifer o ffyrdd amrywiol y gall presenoldeb Duw gael ei deimlo yn ein plith? A ydw i’n sensitif i wahanol anghenion pobl? Nid wrth i bawb fod yr un fath y daw twf mewn cymuned, ond o werthfawrogi gwahaniaeth. Mae’r cyfarfod yn rhannu cyfrifoldeb dros bob plentyn yn ei ofal. Mae ymhyfrydu yn ein hamrywiaeth yn creu lle i’n holl anghenion a’n doniau.

Sut gallwn ni gefnogi’r rhai sy’n cynnig gwasanaeth, fel eu bod yn cael llawenydd wrth helpu ein cyfarfodydd i ffynnu? P’un a ydym wedi ein penodi i rolau ai peidio, mae gan bob un ohonom ran i’w chwarae wrth wneud ein cyfarfodydd yn lleoedd lle mae calonnau’n agor a hyder yn tyfu.

Efallai nad prysurdeb mawr yw’r hyn y mae cariad yn ei ofyn gennym. Mae gwahanol sefyllfaoedd yn caniatáu gwahanol gyfraniadau. Mae gan bob un ohonom adnoddau i’w cynnig i gymuned ein cyfarfod ac efallai y byddwn yn synnu at y mathau o wasanaeth y gallwn eu cynnig. Bydd ymrwymiad cariadus yn ein helpu i roi’r hyn a allwn.

Mae cymuned yn ein dwyn ynghyd fel ein bod yn profi ein gilydd fel pobl gyflawn sydd â doniau a diffygion. Gallwn oll helpu i blethu edafedd derbyniad a maddeuant yng ngwead ein cymuned. Gyda’n gilydd, crëwn gyfeillach sy’n ein cefnogi mewn cyfnodau heriol.

Gall gwrando ar ein gilydd a chyfaddef y gallem ni ein hunain fod yn anghywir fod yn anodd. Sut ydym yn wynebu’r anawsterau hyn er mwyn inni feithrin ymddiriedaeth? Pan fydd gwrthdaro yn codi, gallai ei wadu neu ei osgoi arwain at fwy o boen a gofid. A ydym yn barod i geisio cymorth gan gymuned ehangach y Crynwyr pan na allwn ddod o hyd i ffordd ymlaen i ni ein hunain?

Weithiau nid yr hyn rydym ni fel unigolion ei eisiau yw’r hyn sydd ei angen ar y gymuned. Sut allwn ni helpu ein gilydd i groesawu newid? Efallai y bydd angen i ni ymgymryd â’r gwaith ysbrydol caled o ollwng gafael ar argyhoeddiadau annwyl. A ydw i’n agored i’r posibilrwydd fy mod yn anghywir?

Pan fydd penderfyniadau i’w gwneud yn ein cyfarfodydd, byddwn yn ymgynnull mewn addoliad distaw. A allaf roi fy nymuniadau o’r neilltu os yw’r cyfarfod yn cael ei arwain i gyfeiriad gwahanol? Mae ein profiad yn dweud wrthym, os ydym yn gwrando ar ein gilydd ac yn aros yn amyneddgar am arweiniad dwyfol, yna bydd ffordd yn agor i ni gael ein harwain at undod.

Ein ffydd fel Crynwyr ar waith

Mae ein ffydd fel Crynwyr wedi’i gwreiddio mewn cariad sy’n gorlifo ac sy’n arwain at weithredu. Mae sawl ffurf i’n tystiolaeth ac mae’n newid dros amser wrth i ni ymateb o’r newydd i’r hyn y mae cariad yn ei ofyn wrthym. Mae anghenion ein byd mor fawr fel na all unrhyw ymdrech unigol ddiwallu pob un ohonynt. Gallai hyn ein digalonni. Byddwch fyw’n anturus. Beth mae’r Ysbryd yn eich galw i’w wneud?

Gall unrhyw un ohonom ddod o hyd i rywbeth yn ein calonnau ac yn ein meddyliau sy’n mynnu ein sylw a’n gweithredoedd. Gall yr ysgogiad fod yn daer, yn annisgwyl a hyd yn oed yn rhywbeth nas dymunir. Os bydd hyn yn digwydd i chi, trowch at eich cymuned fel Crynwyr i’ch helpu i ddirnad a yw hyn yn alwad gan Dduw mewn gwirionedd. Efallai y gwelwch fod eraill yn cyd-fynd â chi yn eich pryder.

Gall bod ochr yn ochr ag eraill roi dewrder a nerth inni sefyll yn erbyn anghyfiawnder, ond mae angen inni osgoi cael ein gwthio at safbwyntiau pegynol. A allwn adnabod yr hyn sydd o Dduw yn y rhai sydd â safbwynt gwahanol? Pan fyddwn yn teimlo’n gryf am fater, sut ydym yn osgoi iaith sy’n brifo neu sy’n herfeiddiol? Sut ydym yn cadw’r ffordd ar agor ar gyfer deialog onest a hael fel y caiff pob llais ei glywed?

A ydym yn barod i roi’r amser a’r ymdrech sydd eu hangen i gyflawni ein cyfrifoldebau i’r gymuned ehangach? Fel dinasyddion rydym yn parchu cyfreithiau’r wladwriaeth. Ond efallai y bydd adegau pan fydd tystiolaeth ffyddlon yn ein harwain i deimlo bod yn rhaid i ni dorri’r gyfraith. Os teimlwch reidrwydd i wneud hynny, ystyriwch eich cymhellion, eich gweithredoedd a’u canlyniadau yn weddigar ac yn ofalus. Gofynnwch i’ch cyfarfod helpu eich dirnadaeth.

Pan fyddwn yn addoli ac yn gweithio gyda phobl o eglwysi neu grefyddau eraill, ymddiriedwn y gallwn oll agor ein calonnau i’r dirgelwch canolog y mae llawer yn ei alw’n Dduw. A ydym yn gwrando ar y rhai sy’n ymdrechu am ddaioni, hyd yn oed pan fydd eu hiaith, eu diwylliant a’u delweddaeth yn wahanol i’n rhai ni? Wrth aros yn ffyddlon i ddealltwriaeth y Crynwyr, a ydym yn agored i fywyd a thystiolaeth cymunedau ffydd eraill, gan greu cysylltiadau cyfeillgarwch?

Mae pob person yn unigryw, yn werthfawr ac yn blentyn i Dduw. Mae byw yn ôl y ddealltwriaeth hon o gydraddoldeb yn gofyn am waith penderfynol a pharodrwydd i ddysgu. Beth yw’r gwaith sydd angen i ni ei wneud i sicrhau byd mwy cyfartal? Ydw i’n barod i gael fy herio a gwneud newidiadau gwirioneddol yn fy ymddygiad i leihau’r risg o niwed i eraill?

Mae heddwch yn llawer mwy nag absenoldeb trais a rhyfel. Rydym yn gweithio i adeiladu byd o gyfiawnder, tegwch a chydraddoldeb i bawb. Sut ydw i’n herio hadau rhyfel sydd i’w canfod yn fy mywyd fy hun? Sut gall pob un ohonom helpu i godi pontydd rhwng pobl, lle rydym yn byw ac yn y byd yn ehangach?

Bydd yr awydd dwfn i fyw gyda gwirionedd ac uniondeb yn cyffwrdd â phob rhan o’n bywydau. Gall ein holl weithredoedd dystio i’n ffydd. Pan fydd pwysau cymdeithasol yn fy ngwthio i gyfeiriad gwahanol, beth sy’n fy helpu i sefyll yn gadarn dros fy egwyddorion? Sut ydym yn cefnogi ein gilydd i gysylltu mewn perthnasoedd dilys? Ystyriwch sut gallai sylweddau a thechnolegau sy’n ffurfio arferion, neu ddylanwadau eraill a allai fod yn ddinistriol, effeithio ar hyn.

Mae bywyd syml, os caiff ei ddewis yn rhydd, yn ffynhonnell nerth. Nid yw ein gwir werth yn dibynnu ar gyfoeth, eiddo na chyflogaeth. Gall ansicrwydd ddwyn ein sylw, ac felly hefyd chwantau materol. Mae diffyg hanfodion a byw mewn gormodiaeth yn rhwystro ein bywyd ysbrydol rhag dyfnhau. Mae canolbwyntio ar bwy y gallwn fod yn hytrach na’r hyn sydd gennym yn ein dwyn yn agosach at Dduw. A ydw i’n symleiddio fy anghenion materol cyn belled ag y gallaf? Sut gallwn helpu ein gilydd i fyw bywyd symlach?

Rydym yn byw ar blaned hardd yr ydym yn ei rhannu â ffurfiau bywyd amrywiol a rhyfeddol. A ydw i’n adnabod fy lle fel rhan o gyfanrwydd byw? Nid yw bodau dynol yn berchen ar y byd ac mae ymddwyn fel pe baem yn bygwth dyfodol y blaned. A ydw i’n ystyried anghenion y Ddaear yn fy newisiadau bob dydd? Mae gweithredoedd bach yn bwysig. Wrth i’n byd newid, bydded i ni symud ymlaen gyda dewrder a gobaith. Sut gallwn gefnogi ein gilydd i fyw’n ysgafnach ar y ddaear?

Mae gwaith tuag at gyfiawnder hinsawdd yn dwyn ynghyd lawer o agweddau ar ein tystiolaeth. Ni all fod heddwch heb gyfiawnder, ni all fod cyfiawnder heb gydraddoldeb. Mae uniondeb yn ei gwneud yn ofynnol inni wynebu sut rydym yn elwa o systemau sy’n camfanteisio ar bobl a’r blaned. Rydym i gyd yn dibynnu ar ein gilydd am lesiant yn y byd hwn. Beth yw fy rhan i wrth greu byd tecach?

Ein teithiau drwy fywyd fel Crynwyr

Mae ein teithiau trwy fywyd mor amrywiol ag yr ydym ni. A ydw i’n ceisio dysgu o dystiolaeth a phrofiad pobl eraill? A ydw i’n barod i rannu’r hyn rydw i wedi’i ddysgu? Rydym i gyd yn dirnad sut i fyw’n ffyddlon. Mae’r Ysbryd yn gyson yn datgelu gwirioneddau newydd i’r rhai sy’n eu ceisio. Mae yna gylch parhaus o geisio, darganfod, a cheisio eto.

Bydd gan ein synnwyr o bwy ydym lawer o elfennau a gall newid dros oes. I rai ohonom, bydd darganfod a hawlio ein hunaniaeth yn daith anodd. Sut ydw i’n dangos parch at brofiad pobl eraill? Sut gallwn feithrin dealltwriaeth rhwng pobl o bob hunaniaeth? Mae rhagdybiaethau sydd wedi’u hymgorffori mewn cymdeithas yn llunio ein teimladau a’n hymddygiad. A ydw i’n osgoi stereoteipiau neu labelu eraill?

Efallai y byddwn yn canfod bod tensiynau rhwng ein gwerthoedd fel Crynwyr a’r diwylliant a’r arferion o’n cwmpas. Sut gallaf ddilyn arweiniad yr Ysbryd ym mhob sefyllfa yr wyf ynddi?

Gall pleserau bywyd fod yn ffordd bwysig o brofi cariad helaeth Duw. Gallwn ganfod hwyl a mwynhad mewn sawl ffordd: mewn cwmni ac ar ein pen ein hunain, mewn gweithgarwch a llonyddwch; wrth ddysgu, mewn creadigrwydd ac wrth rannu ein dealltwriaeth. Sut mae fy newisiadau’n effeithio arnaf i, ar bobl eraill ac ar y blaned? Beth sy’n rhoi llawenydd i mi? A ydw i’n caniatáu i’m hapusrwydd ddisgleirio a bendithio’r rhai o’m cwmpas?

Gall unrhyw un ohonom deimlo ein bod wedi ein llethu gan deimladau negyddol. Mae rhai ohonom yn byw gyda phroblemau a grëwyd gan brofiadau anodd yn ystod plentyndod. Pan fydd rhywun yn ein brifo, neu pan fyddwn yn methu, mae’n anodd cofio’r Goleuni sydd ynom ni i gyd. Sut ydym yn osgoi achosi niwed i ni’n hunain ac i eraill? Mae maddeuant yn broses a all fod yn waith ysbrydol anodd. A allaf faddau i eraill, ac i mi fy hun? A yw’n bosibl gollwng gafael ar fy mhoen? Sut ydw i’n dal fy mhoen fy hun a phoen eraill yn y Goleuni?

Mae caru a chael eich caru yn ffynhonnell llawenydd. Mae sawl ffurf i berthynas a thrwy bob un ohonynt gallwn adnabod gras Duw. Ar unrhyw adeg, gallem gwrdd â rhywun a fydd yn dod yn annwyl i ni. A ydw i’n trysori fy nghyfeillgarwch ag eraill fel eu bod yn tyfu o ran dyfnder a pharch at ein gilydd? Pan ddaw trafferthion, a ydw i’n gwrando ar yr hyn sydd ei angen ar eraill? A allaf dderbyn cymorth yn rhwydd?

Pan fyddwn yn adnabod ein gilydd yn ddwfn, gallwn lenwi bywyd ein gilydd â goleuni. Gall bod yn agos hefyd roi’r grym inni frifo ein gilydd. A ydw i bob amser yn ymwybodol o’r nerth sydd gennyf? Drwy fy ngeiriau a’m gweithredoedd, gall cariad Duw gyrraedd y rhai sy’n agos ataf.

Mae adeiladu partneriaeth hirdymor yn gofyn i ni agor ein calonnau’n hael i’r llall mewn cariad ac ymddiriedaeth. Gall yr ymrwymiad cariadus hwn fod yn llawenydd bywyd, ond gall trysori cymar fod yn waith caled bob dydd. Ym mhriodas y Crynwyr, mae’r pâr yn addo ymrwymiad oes i’w gilydd, gan wybod y bydd yr Ysbryd a’u Cyfarfod yn eu cynnal i gadw’r addewid hwnnw.

Mewn unrhyw berthynas ymrwymedig, gall amgylchiadau godi pan mai gwahanu fyddai orau. Os cewch eich arwain neu eich gorfodi i wahanu, byddwch yn ymwybodol o’r effaith ar y rhai sy’n agos atoch, yn enwedig plant. Caniatewch i chi’ch hun alaru am yr hyn a gollwyd. Cadwch i ymddiried yn eich gallu i roi a derbyn cariad.

Mae gan deuluoedd y potensial i gyfoethogi’n fawr ac i wneud niwed mawr. A ydw i’n chwilio am ffyrdd o gyfathrebu’n dda a cheisio maddau poen? P’un a yw fy nheulu’n rhannu fy ffydd ai peidio, a ydw i’n gadael i’r Ysbryd fy arwain?

Bydd plentyn sy’n profi cariad, gonestrwydd a pharch yn gallu ymddiried yn well mewn eraill ac yn gallu adnabod yr Ysbryd yn well yn y byd o’i gwmpas. Ni all neb fod yn rhiant perffaith, drwy’r amser. Bydd plentyn sy’n gweld oedolion yn gwneud camgymeriadau ond yn parhau i gerdded yn y Goleuni, yn dysgu sut i wneud hyn ei hunan.

Drwy gydol ein bywyd mae gennym lwybr uniongyrchol at y Dwyfol. Nid oes angen geiriau na sgiliau arbennig arnom i brofi hyn. Gall plant addoli mewn ffyrdd sy’n adfywio ac yn adnewyddu dealltwriaeth oedolion. A yw ein cymuned yn gweld goleuni Duw ynom ni i gyd, beth bynnag fo’n hoedran? A yw pob cwestiwn yn cael ei ateb yn barchus? Mae’r cyfarfod yn rhannu cyfrifoldeb dros bob plentyn yn ei ofal. Wrth i ni dyfu a dysgu, boed i ni gadw ymdeimlad plentyn o ryfeddod.

Mae cymdeithas ehangach yn aml yn tybio bod gan bawb gymar a bod pawb yn rhan o deulu confensiynol. Mae rhai ohonom yn byw ar ein pennau ein hunain ac yn teimlo’n gyflawn, tra bod eraill yn teimlo’n ynysig ac yn amddifad. Gall unrhyw un ohonom brofi teimladau cymysg. A ydw i’n barchus tuag at bob math o sefyllfaoedd personol ac yn ofalgar ohonynt?

Mae colled yn dod â phoen a her wrth addasu. Pan fyddwch yn wynebu profedigaeth neu newid arall nas dymunir, gall dysgu derbyn colled fod yn waith caled a phoenus. Mae sylweddoli bod eich bywyd wedi newid yn barhaol yn teimlo’n anodd, weithiau’n amhosibl ei ddioddef. Arhoswch yn y Goleuni gyda’r emosiynau a ddaw yn sgil hyn. A allwch chi ddod o hyd i’r dewrder i rannu eich anghenion a bod yn agored i gymorth gan eraill?

Pan fydd eraill yn galaru, rhowch sylw i anghenion newydd wrth i elfennau eu bywydau newid o’u cwmpas. Mae dal rhywun yn y Goleuni yn beth tyner i’w wneud. Pan wnawn hyn, rydym ni hefyd yn agored i’r Goleuni.

Mae gofalu yn gariad ymarferol. Gall fod yn flinedig a heb ei werthfawrogi’n ddigonol. Efallai y byddwn yn cael trafferth rhoi neu dderbyn cymorth yn raslon. Pan fyddwch yn ddibynnol ar ofal gan eraill, cofiwch y gall y Goleuni y tu mewn i chi eich helpu i gynnig cariad o hyd. Pan fyddwch yn rhoi gofal, cofiwch eich nerth a byddwch yn ystyriol o urddas pobl.

Wrth i ni heneiddio, efallai y byddwn yn poeni llai am yr hyn y mae eraill yn ei feddwl amdanom ac yn gallu dirnad y dewisiadau sydd ar gael i ni yn well. Efallai y bydd hefyd arnom faich cyfrifoldebau. A ydw i’n agored i bopeth y mae bywyd yn ei gynnig?

Mae henaint yn fraint ond gall hefyd ddod â cholled, edifeirwch a thristwch. Yn ein henaint rydym yn wynebu cyfyngiadau cynyddol, ond gallwn o hyd fod â’r awydd dwys i fyw ein bywyd i’r eithaf. Gall y Goleuni sydd wedi bod ynom erioed ymddangos mewn ffyrdd annisgwyl a llawen.

A allaf fyw’n onest ac yn dyner gyda’r ffaith y byddaf yn marw? A allaf ddathlu fy ymateb i’r Goleuni a roddwyd i mi? Sut ydym yn paratoi, yn ysbrydol ac yn ymarferol, ar gyfer marwolaeth? Sut gallwn ni fel cymuned gefnogi’r rhai sy’n wynebu marwolaeth? Wrth i bob un ohonom agosáu at ddiwedd ein hoes, gall y datguddiad parhaus o fywyd yn yr Ysbryd ddod â heddwch inni. A allwn ddweud, gyda George Fox, “Rwy’n falch y bûm i yma”?